Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Mehefin, 2017
i'w hateb ar 6 Mehefin 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1.         Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effeithiau dim cytundeb fasnach â'r UE ar Gymru? OAQ(5)0635(FM)

 

2. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A oes gan Lywodraeth Cymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni, bellach, i wneud penderfyniad ynghylch darparu'r cymorth ariannol y gwnaeth hyrwyddwyr Cylchffordd Cymru gais amdano? OAQ(5)0636(FM)

 

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yn Ynys Môn? OAQ(5)0637(FM)W

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithfeydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OAQ(5)0638(FM)

 

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0634(FM)

 

6. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu codi ymwybyddiaeth ynghylch dementia yng Nghymru? OAQ(5)0633(FM)

 

7. Hannah Blythyn (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0632(FM)

 

8. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ(5)0625(FM)

 

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0639(FM)

 

10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amseroedd aros dilynol ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid i gleifion allanol yn ysbytai Cymru? OAQ(5)0628(FM)

 

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi twristiaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0630(FM)

 

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu triniaeth ar gyfer pobl sydd â chanser y prostad? OAQ(5)0626(FM)

 

13. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad o ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe? OAQ(5)0623(FM)

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau sy'n dathlu hanes yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0624(FM)

 

15. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y flaenoriaeth gymharol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu'r GIG o'i chymharu â gwariant arall y llywodraeth? OAQ(5)0629(FM)